Llenyddiaeth Hen Roeg

Llenyddiaeth a ysgrifennir yn Hen Roeg, y ffurf ar yr iaith Roeg a fodolai yn y cyfnod o waith Homeros hyd at yr Ymerodraeth Fysantaidd, yw llenyddiaeth Hen Roeg. Arwrgerddi Homeros, yr Iliad a'r Odyseia, ydy'r gweithiau hynaf yn llên Ewrop ac yn nodi man cychwyn canon y Gorllewin.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy